Trwy ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau canlynol:

Diogelir arwyddlun, logo, delwedd, cynllun a dyluniad y wefan hon gan gyfraith hawlfraint. Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r gwaith hwn na’i gadw mewn system adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffurf na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, recordiad mecanyddol nac fel arall heb yn gyntaf sicrhau caniatâd pendant Heddlu Dyfed-Powys.

Caniateir i unrhyw un gopïo ac argraffu gwybodaeth a geir ar y wefan hon at bwrpas gwybodaeth yn unig, cyn belled ag y caiff ei hatgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Ni all Heddlu Dyfed-Powys dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled a achoswyd neu a grëwyd trwy ddibynnu ar wybodaeth felly.

Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys cysylltiadau allanol a geir ar y wefan hon. Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni ellir ei warantu, ac mae’n bosib fod gwybodaeth a roddwyd ar y wefan hon bellach, oherwydd treigl amser, yn amherthnasol neu’n anghywir. Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys ar unrhyw gyfrif yn gyfrifol am golledion a ddioddefir, sut bynnag y’u hachosir, trwy ddefnyddio’r wefan hon. Os cewch unrhyw broblemau â’r wefan, cysylltwch â Datblygydd Gwefan yr Heddlu – gweler y manylion isod.

Diogelwch

Ymdrechwn i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich manylion personol ond ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych ar-lein. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y peryglon diogelwch cynhenid sy’n gysylltiedig â darparu gwybodaeth a delio ar-lein ac ni fyddwch yn gallu ein dal ni’n gyfrifol am unrhyw dor diogelwch ac eithrio o ganlyniad i esgeulustod neu ddiffyg bwriadol ar ein rhan ni.

Cwcis

Defnyddir cwcis ar gyfer storio dewision defnyddwyr, megis iaith neu faint y ffont, a hefyd i’n galluogi ni, trwy gyfrwng Google Analytics, i weld sut y mae pobl yn defnyddio’r safle.

Darn o ddata yw cwci sy’n cael ei roi ar gyfrifiadur y defnyddiwr ac sydd â chyswllt i wybodaeth am y defnyddiwr.  Gallwch ddweud wrth eich porydd gwe i beidio â derbyn cwcis; defnyddiwch y teclyn ‘help’ i gael gwybod sut i wneud hyn.  Am ragor o wybodaeth am cwcis, gweler y wefan All About Cookies.

Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am yr ymwelydd mewn modd cyfrinachol.  Defnyddir y wybodaeth hon i asesu’r modd y defnyddir y wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol am y defnydd hwnnw.  Ni fyddwn (ac ni fyddwn yn caniatáu unrhyw drydydd parti) i ddefnyddio’r offer dadansoddi ystadegol i gasglu gwybodaeth a allai arwain at adnabod y bobl sy’n ymweld â’n gwefan.  Am ragor o wybodaeth am bolisi preifatrwydd Google, gweler Google Privacy Centre.

Gwybodaeth Gyffredinol

Mae gennych hawl i weld rhai darnau o ddata personol yr ydym ni yn eu cadw amdanoch chi. Os ydych yn pryderu fod unrhyw ran o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Datganiad hwn, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data (dataprotection@dyfed-powys.pnn.police.uk).

Gair o rybudd - ni ddylai plant dan 16 oed anfon unrhyw wybodaeth i unrhyw wefan heb ganiatâd rhiant a/neu warcheidwad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ddogfen hon, cysylltwch os gwelwch yn dda â:

Heddlu Dyfed-Powys 
Pencadlys yr Heddlu 
Blwch Post 99
Llangynnwr 
Caerfyrddin 
SA31 2PF