Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd ei rwymedigaethau a’i gyfrifoldebau o ddifrif ac yn cymryd gofal arbennig i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn modd priodol. Mae prosesu gwybodaeth bersonol wedi ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) cysylltiedig.

Pwy ydym ni?

Ein rhif cofrestru ar gyfer diogelu data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw Z537336X.

Rheolydd Data

Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
BLWCH POST 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF

Swyddog Diogelu Data

Pennaeth Rheoli Gwybodaeth
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
BLWCH POST 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF

Pa wybodaeth sydd gennym a sut fydd yn cael ei defnyddio?

At ddibenion rheoli eich cyfrif Llais, a rhoi’r diweddariadau e-bost y gofynnoch amdanynt i chi, byddwn yn cadw'r wybodaeth bersonol ganlynol: - Eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost. Dim ond at ddibenion hysbysu y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ac ni fyddwn byth yn rhoi nac yn gwerthu eich gwybodaeth gyswllt neu leoliad i unrhyw sefydliad arall.

Sut ydyn ni'n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel?

Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn y DU. Byddwn yn cydymffurfio â'r rhan berthnasol o'r ddeddfwriaeth diogelu data sy'n ymwneud â diogelwch, ac yn sicrhau bod polisïau a hyfforddiant priodol, ynghyd â mesurau technegol a gweithdrefnol ar waith.

Ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu

Dim ond gyda'ch caniatâd y byddwn yn prosesu'ch gwybodaeth bersonol, at y diben hwn. Mae Llais yn caniatáu ichi optio i mewn i dderbyn gwybodaeth gan eich tîm plismona lleol ar ystod o bynciau, yn syth i'ch mewnflwch. Mae gennych hawl i dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gellir gwneud hyn trwy ddatdanysgrifio i ddiweddariadau e-bost Llais a dileu eich cyfrif (trwy fewngofnodi i'ch proffil a chlicio 'Dileu Cyfrif').

Am ba mor hir ydyn ni'n cadw eich gwybodaeth?

Cedwir eich gwybodaeth, at y diben hwn, dim ond am yr amser y byddwch wedi tanysgrifio i ddiweddariadau e-bost Llais ac yn dal cyfrif ar-lein.

Gyda phwy ydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth?

Dydyn ni ddim yn rhannu eich gwybodaeth bersonol, a ddarparwyd gennych er mwyn derbyn diweddariadau ebost Llais yn unig, gydag unrhyw sefydliad arall.

Gwybodaeth Bellach

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynglŷn â’r modd y prosesir eich gwybodaeth bersonol gan Heddlu Dyfed-Powys, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar ein gwefan.